Y Llyfrau
Mae'r dudalen hon yn gartref i holl lyfrau Dyna chi dric! Gallwch ddarganfod y gweithgareddau sydd am ddim, darllen y llyfrau rydych wedi hawlio codau ar eu cyfer, neu brynu mynediad i lyfrau eraill o'n siop ar-lein.
Er mwyn medru darllen y llyfrau, bydd angen i chi fewngofnodi.
Cam
1
Dim ond un cwestiwn sydd ar flaen tafod pob un o'r anifeiliaid yn y llyfr hwn...a'r cwestiwn yw...Beth ydw i? Darllena'r llyfr gan fynd o dudalen i dudalen ac o anifail i anifail i ateb y cwestiwn...Beth ydw i?!
Beth wyt ti'n ei wybod am yr epa? Wyt ti'n gwybod nad yw'r epa yn fwnci? Wyt ti'n gwybod bod yr epa yn debyg iawn i ti a fi? Mae llawer i'w ddysgu am yr epa, ac mae'n greadur sy'n hoffi cael hwyl hefyd!
Mae Jac-y-do yn hoffi mynd am dro. Ond erbyn diwedd y stori hon mae angen i Jac-y-do gael bath! Mae Jac-y-do yn fwd i gyd! Tybed i ble aeth Jac-y-do am dro? Tybed beth sydd wedi achosi iddo gyrraedd pen ei daith mor fudr? Mae'r ateb rhwng cloriau'r llyfr hwn.
Mae Dad yn edrych ymlaen at gael bath. Ond mae pry cop yn y bath yn barod! Mae ofn ar y pry cop am ei fod mor fawr, ond mae ofn y pry cop ar Dad hefyd! Diolch byth am Lil, does dim ofn pry cop bach annwyl arni hi. Wyt ti'n hoffi pry cop?
Beth sydd yn y sach? O mam bach! Gall llwyth o bethau mawr a bach fod yn cuddio yn y sach! Tyrd i rapio ac fe gei di weld beth sydd yn y sach! O mam bach!!
Mae Edi yr Epa yn byw mewn tŷ bach bach ac mae gan Edi lwyth o syniadau am bethau yr hoffai eu cael yn ei dŷ bach bach. Mae gan Edi syniadau mawr! Ond a oes lle i'r holl bethau yn y tŷ bach bach?
Mae Jac a Jo, y ddau fochyn, eisiau rhedeg ras. Mae Jim y ci hefyd eisiau rasio Jac a Jo. Tybed pwy fydd y cyflymaf? Tybed pwy fydd yn ennill y ras? A phwy fydd yn ail a thrydydd? Wyt ti'n barod i redeg y ras gyda Jac a Jo a Jim?
Cam
2
Oes gen ti anti neu wncwl sy'n llawn o hwyl i fod yn eu cwmni? Un fel yna yw Anti Ani, ac mae hi wedi dod i ymweld â'r teulu. Ond mae un peth mai Anti Ani yn ei hoffi yn fwy na dim. Darllena'r stori i ddysgu mwy!
Wyt ti wedi bod ar wyliau i lan y môr? Wyt ti wedi gweld siopau yn gwerthu cardiau post yno? Mae ysgrifennu am dy wyliau ar garden post a'i phostio yn ôl at dy deulu neu ffrindiau yn hwyl ac yn ffordd braf o gofio am yr amser braf y cest ti ar dy wyliau. Dyna'n union mae Wini yr Wylan yn ei wneud yn y stori hon.
Mae'r byd yn llawn o wahanol dai, yn y llyfr hwn cei di flas o rai o'r llefydd hyn. Tyrd, ateba'r cwestiwn: ble wyt ti'n byw?
Mae Cynan y ceiliog yn drist...ond pam tybed? Mae Cynan y ceiliog wedi colli plu ei gynffon. A fedri di helpu Cynan a'i ffrindiau i ffeindio'r gynffon goll? Mae angen chwilio ymhobman ac mae angen dy help ar Cynan y ceiliog!
Oes gen ti gi neu anifail anwes yn byw adre gyda ti? Ydy e neu hi yn gallu bod yn ddireidus weithiau ac eisiau chwarae, chwarae a chwarae mwy...gyda dy deganau, dy ddillad...neu dy bants?! Yn y stori hwyliog hon, cei wybod am y troeon trwstan sy'n digwydd pan fo Sam y ci yn cael gafael ar bentwr o bants glân!
Mae'r byd yn llawn o bethau bach, a phethau enfawr! Pethau sy'n llai o faint a phethau sy'n fwy o faint. Dyma dy gyfle i ddweud pa un sydd yn llai a pha un sydd yn fwy a pha un yw'r mwyaf oll. Yn y gyfrol ffeithiol hon cei di ymarfer holi cwestiynau a mwynhau eu hateb nhw hefyd.
Cer i nôl dy offer garddio...mae Jac-y-do yn barod i dy helpu di i dyfu planhigyn. Ond gyda'r offer, y pridd a'r hadau, mae hefyd angen amynedd ac amser i wylio'r planhigyn yn tyfu. Pa bethau eraill sydd eu hangen, tybed, i helpu planhigyn i dyfu?
Cam
3
Mae'r alarch a'r frân, yr hwyaden a'r paun yn adar gwahanol iawn i'w gilydd ac maen nhw i'w gweld yn y llyfr hwn. Ond beth wyt ti'n gwybod am eu cywion? Beth yw lliw eu plu? Ydy pig pob cyw yr un lliw â phig y fam?
Mae Beti'r Bos yn brysur iawn yn yr ardd. Mae hi mor brysur fel ei bod hi wedi galw Jac Codi Braw i ddod i'w helpu. Ond ar ôl palu un twll yn yr ardd mae Beti'r Bos a Jac Codi Baw yn dod o hyd i rywbeth cyffrous iawn...map trysor! Ond tybed a fydd Beti a Jac Codi Baw yn ffeindio'r trysor. Ac os ydyn nhw... beth sydd wedi ei gladdu yn yr ardd?
A fuest ti erioed ar drên sgrech? Os do fe, a gest ti ofn? A wyt ti'n ddigon dewr i ddilyn Edi ac Efa a wynebu pob math o bethau sy'n codi braw? Mae un o blith y ddau yn edrych ymlaen yn fawr at fynd ar y trên sgrech, a'r llall yn llawn ofn. Ond pwy tybed?
A gest ti noson ddigwsg erioed, yn troi a throsi ac yn methu mynd i gysgu? Beth yw'r ateb pan fo hynny'n digwydd? Sut mae modd setlo i gysgu'n braf? Dyna'r cwestiwn sy'n wynebu Cynan y ceiliog wrth i bawb arall o'i gwmpas chwyrnu'n braf...
Mwnci bach yw Meic y mwnci. Mae'r ddau fwnci direidus arall yn meddwl nad yw Meic y Mwnci'n gallu neidio na hongian fel nhw am ei fod yn fwnci bach. Ond mae Meic yn fwnci clyfar! Tybed beth fydd Meic yn ei wneud i ddangos ei glyfrwch?
Pum parot lliwgar yn eistedd yn y goeden, pum parot lliwgar yn hapus ac yn llawen...Os am wybod mwy am y pum parot lliwgar, sydd fyny fry yn y goeden, yna gwna di y dewis clyfar ac agor y llyfr a'i ddarllen!
Wyt ti wedi sylwi ar bryfed bach ein byd? Weithiau fe weli di rai yn y tŷ. Ond os ei di i'r ardd neu i ganol byd natur fe sylwi di ar lawer iawn ohonyn nhw. Maen nhw'n brysur yn gwneud eu gwaith, ac mae gyda nhw ran bwysig i'w chwarae yn ein byd. Tyrd i ddysgu pam bod pob un pry bach yn bwysig.